Swyddogion y cyfrifiad 15, 25 neu 37 awr yr wythnosContract: Rhwng 16 Mawrth a 29 Ebrill 2021, neu rhwng 23 Mawrth a 29 Ebrill 2021Cyflog: £11.22 - £14.61 (yn ddibynnol ar leoliad) Cyfathrebwyr hyderus sy'n gwneud y cyfrifiadArolwg o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yw'r cyfrifiad, sy'n digwydd bob 10 mlynedd. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a chaiff y wybodaeth sy'n cael ei chasglu ei defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb – pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom.Er mwyn gwneud y cyfrifiad yn llwyddiant, mae angen tîm o swyddogion maes gweithredol a hyderus arnom i ymuno â ni mewn rôl dros dro. Er y byddwch yn gweithio'n annibynnol, byddwch yn dod yn rhan o dîm gwerthfawr o swyddogion, gweinyddwyr a chydgysylltwyr eraill. Bydd eich arweinydd tîm hefyd yn eich helpu i ymgyfarwyddo â'ch rôl a deall sut mae popeth yn gweithio. Byddwch yn ymgymryd â'r rôl bwysig o ymweld â chyfeiriadau, gan annog pobl i gwblhau'r cyfrifiad a rhoi cymorth lle bo angen. Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn cynnig eich sgiliau mewn digwyddiadau cwblhau'r cyfrifiad yn y gymuned o bryd i'w gilydd. Mae'n rôl hyblyg iawn lle y gallwch reoli eich oriau eich hun (ar yr amod eich bod yn gweithio o fewn yr oriau a nodwyd). Amdanoch chiRydym yn chwilio am unigolion llawn cymhelliant sy'n gallu gweithredu fel ein cynrychiolwyr, cadw cofnodion cywir a chadw gwybodaeth y cyhoedd yn ddiogel. Byddwch yn cwrdd â phobl o bob cefndir, felly bydd angen digon o wydnwch arnoch a'r hyder i ddelio ag unrhyw wrthwynebiadau. Byddwch hefyd yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych, byddwch yn gyfforddus yn defnyddio ffonau clyfar ac apiau a byddwch yn hapus i deithio (gallai hyn olygu bod angen trwydded yrru lawn y Deyrnas Unedig arnoch a cherbyd modur addas). Ar gyfer rolau yng Nghymru, byddai sgiliau Cymraeg yn fanteisiol.Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad. Os ydych chi'n chwilio am waith dros dro, ac os oes diddordeb gennych mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais am rôl swyddog y cyfrifiad.Gallwn ni ond eich cyflogi os ydych chi'n gymwys i weithio i'r Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy am reolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil.COVID-19Mae eich iechyd chi, ynghyd ag iechyd ein staff maes, yn hollbwysig i ni. Byddwn yn dilyn canllawiau diogelwch y llywodraeth ar y coronafeirws (COVID-19). Bydd cyfarpar diogelu personol priodol yn cael ei ddarparu i'r holl staff. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol drwy gydol gweithrediad y cyfrifiad.
We are looking for new drivers to join our friendly team and be trained on the job. If you are looking for a long term position with a friendly company please dont hesitate to get in touchWhat you will need: * A valid C + E Licence (maximum 6 points) * A valid Digital Tachograp...
Your key responsibilities as an HGV Driver will include:. In possession of a valid current Category C HGV licence. ...
Your key responsibilities as an HGV Driver will include:. In possession of a valid current Category C HGV licence. ...