Customer Service Advisor - FlintshireChester

Cyfwelwyr arolwg cwmpas y cyfrifiad 15, 25 neu 37 awr yr wythnos Contract: 27 Ebrill 2021 – 2 Mehefin 2021 + gwyliau Cyflog yn ddibynnol ar leoliad Band 1 – £14.61 Band 2 – £12.64 Band 3 – £11.22 Dim oriau gwaith dyddiol penodol ond bydd rhaid i chi weithio o fewn yr amseroedd canlynol: O ddydd Llun i ddydd Sadwrn: 9am ac 8pm Dydd Sul a gwyliau banc: 10am a 4pm Yn ogystal, rhaid i chi weithio o leiaf 60% o'r oriau hyn yn ystod yr amseroedd canlynol: O ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 4pm ac 8pm Dydd Sadwrn, rhwng 9am ac 8pm Dydd Sul, rhwng 10am a 4pm Cyfathrebwyr hyderus sy'n gwneud y cyfrifiad Arolwg o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yw'r cyfrifiad, sy'n digwydd bob 10 mlynedd. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Caiff y wybodaeth rydym yn ei chasglu ei defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb – pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom. Rydym ni bellach yn chwilio am dîm a all gwblhau cyfweliadau ar garreg y drws mewn ardaloedd penodol. Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ac yn helpu i wella dyfodol eich cymuned. Y rôl Ydych chi'n mwynhau siarad â phobl o bob cefndir? Yn y rôl dros dro bwysig hon, byddwch yn cwblhau cyfweliadau ar garreg y drws gyda phob cartref yn eich ardal cod post benodol. Byddwch yn rhestru ac yn cofnodi pob eiddo mewn ardal benodol ar ffôn clyfar, byddwch yn curo ar ddrysau ac yn annog preswylwyr i gwblhau cyfweliad ar garreg y drws gyda chi. Bydd rhai pobl yn poeni am lenwi'r holiadur. Dyna lle byddwch chi'n defnyddio eich sgiliau cyfathrebu neu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych. Byddwch yn rhoi tawelwch meddwl i'r bobl hyn, ac yn ymweld â chyfeiriadau dro ar ôl tro yn ôl yr angen nes i chi gael ymateb. Rôl annibynnol yw hon. Byddwch allan yma ac acw mewn ardal benodol ac yn gweithio yn unol â'ch amserlen eich hun, heb unrhyw ganllawiau penodol. Cewch gymorth gan arweinydd tîm a fydd yn eich helpu i ymgyfarwyddo â'ch rôl, ac yn rhoi cymorth i chi yn ôl yr angen. Amdanoch chi Rydych yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, ac rydych yn hyderus yn siarad ag aelodau o'r cyhoedd a'r gymuned leol. Bydd achlysuron pan fydd y gwaith hwn yn heriol o bosibl, felly bydd angen i chi allu cadw'ch pen a bod yn broffesiynol pe bai hynny'n digwydd. Mae meddu ar sgiliau ysgrifenedig a llafar da yn Saesneg yn bwysig (byddai sgiliau Cymraeg yn fanteisiol os byddwch yn gweithio yng Nghymru). Dylech fod yn drefnus, yn llawn menter, a theimlo'n hyderus yn defnyddio ffôn clyfar a chymwyseddau amrywiol. Yn dibynnu ar eich lleoliad, mae'n bosibl y bydd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyfredol y DU a bod â cherbyd modur i'w ddefnyddio, wedi'i yswirio at ddefnydd busnes. Byddwch yn cael eich talu am dreuliau teithio yn eich ardal waith. Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad. Os ydych chi'n cyfathrebu'n hyderus ac os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais am rôl cyfwelydd arolwg cwmpas y cyfrifiad. Gallwn ni ond eich cyflogi os ydych chi'n gymwys i weithio i'r Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy am reolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil. COVID-19Byddwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chanllawiau priodol y llywodraeth er mwyn eich cadw chi'n ddiogel pan fyddwch yn gweithio i SYG. Bydd cyfarpar diogelu personol priodol, gan gynnwys diheintydd dwylo a masgiau wyneb, yn cael eu darparu i'r holl staff. Er mwyn eich cadw'n ddiogel, bydd angen i chi ddefnyddio a gwisgo'r cyfarpar diogelu personol hwnnw, yn ôl y cyfarwyddyd, pan fyddwch chi'n gweithio. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol drwy gydol gweithrediad y cyfrifiad.

Other jobs you may find of interest
See more
HR Advisor - 2 Month Contract Employee - Civil work tradesperson in Chester
HR Advisor - 2 Month Contract

Reporting to the Head of HR and working alongside the wider HR team the HR Advisor will be responsible for providing best practice HR advise and guidance.The successful candidate will support line managers and employees across the company in line with the Company's strategic aims...

Personal Assistant To Ceo Employee - Civil work tradesperson in Chester
Personal Assistant To Ceo

We currently have an exciting opportunity for a highly professional Personal Assistant to work alongside the CEO of a highly successful commercial finance business located in Chester. This role is to support the CEO whereby you will be responsible for managing both his personal a...

Personal Assistant Employee - Civil work tradesperson in Chester
Personal Assistant

Hours – Fixed Term Maternity Cover Here at Watkin Jones, we are now looking for a Personal Assistant to provide a comprehensive, confidential and professional support service to our Director in all aspects concerned with the efficient and successful operation of the office and division. ...